 |
Ceisiwch ddod o hyd i le diogel i fynd iddo (tŷ ffrind, teulu neu loches) |
|
 |
 |
Trefnwch arwydd gyda ffrind fel y gellir eich helpu i ddianc. Efallai y bydd angen i’r arwydd hwn fod mewn côd |
|
 |
 |
Ceisiwch gael digon o arian wedi’i roi o’r neilltu rhag ofn fod angen i chi dalu’n gyflym am dacsi, taith mewn bws neu drên |
|
 |
 |
Casglwch ddogfennau ynghyd megis llyfrau budd-dâl plant a llyfrau budd-daliadau eraill, pasbortau, tystysgrifau geni, llyfrau rhent, manylion morgais ac ati a’u cadw mewn lle diogel er mwyn i chi gael gafael arnynt yn rhwydd |
|
 |
 |
Sicrhewch fod gennych set arall o allweddi ar gyfer eich tŷ neu unrhyw le arall y gallech fod angen mynd iddo. Cofiwch fynd â’ch set o allweddi tŷ gyda chi | |
 |
 |
Cadwch restr o gysylltiadau brys, e.e. ysgol, meddyg teulu, gwasanaethau cymorth, mewn lle diogel |
|
 |
 |
Cuddiwch fag bychan o eitemau hanfodol mewn lle diogel ynghyd ag unrhyw ddeunyddiau golchi, pethau ar gyfer babanod neu eitemau personol y byddwch eu hangen o bosibl |
|
 |
 |
Os oes gennych blant, cofiwch fynd â’u hoff degan neu gysurwr gyda chi |
|
 |
| Mae gwneud y penderfyniad i adael yn gam mawr ond yn un y bydd pobl yn ei wneud yn llwyddiannus bob dydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hunan ac mae llawer o help ar gael i’ch cynorthwyo. |
 |