Ynglyn a PDAF

Diffiniad o drais yn y cartref:

“ Unigolyn sy’n cael ei gam-drin (neu dan fygythiad o gael ei gam-drin) yn emosiynol, yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu’n ariannol gan eu partner, aelod o’r teulu neu rywun lle mae neu lle bu perthynas â hwy”
(Fforwm Trais yn y Cartref Powys – 2000)

Pwy ydym ni?

Partneriaeth amlasiantaethol o fudiadau statudol a gwirfoddol yw Fforwm Trais yn y Cartref  Powys  sy’n ymroddedig tuag at leihau’r achosion o drais yn y cartref. Mae’r Fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Lleol Powys, Yr Heddlu, Y Gwasanaeth Prawf, Cymorth i Fenywod, Cyngor Alcohol a Chyffuriau Powys a Chymorth i Ddioddefwyr Powys.

Mae 2 ddarn o ddeddfwriaeth bwysig yn tanategu gwaith y Fforwm ym Mhowys: Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 a Deddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 (The Domestic Violence Crime and Victims Act 2004). Mae’r ddeddf olaf hon yn cynyddu’r diogelwch cyfreithiol i ferched a phlant/pobl ifanc – a fydd yn galluogi mwy o ddioddefwyr i aros yn eu cartrefi eu hunain a theimlo’n ddiogel.

Y ffordd o’n blaen …

Mae’r Fforwm wedi llunio cynllun gweithredu am y 3 blynedd nesaf a’i nod yw Hyrwyddo’r neges nad yw trais yn y cartref yn dderbyniol

  • Annog adrodd am drais yn y cartref a lleihau’r achosion o ymosod ar rywun dro ar ôl tro.
  • Cynyddu hyder y sawl sy’n dioddef a sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i’r gwasanaethau a chymorth sydd ar gael iddynt
  • Sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn derbyn trais yn y cartref
  • Mesur beth yw gwir gost trais yn y cartref – yn ariannol ac i bobl
  • Sicrhau bod troseddwyr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu hymddygiad

 

Mewn ymateb i Strategaeth Genedlaethol Cymru Gyfan: Mynd i’r Afael â Thrais yn y Cartref, mae Fforwm Trais yn y Cartref Powys wedi llunio amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth am yr help sydd ar gael i’r sawl sy’n dioddef trais yn y cartref. Mae’r rhain yn cynnwys cardiau gwybodaeth, cylch allweddi, nodau llyfr a nodiadau ‘post-it’ gyda manylion  Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cymru a mudiadau sy’n cynnig help a chyngor. Mae gan y Fforwm wefan hefyd sy’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sef  – ‘Not Your Fault’ ac mae wedi dosbarthu matiau llygoden a bandiau garddwn i ysgolion ym Mhowys. Mae Fforwm Trais yn y Cartref Powys yn ymroddedig o ran herio’r syniad fod trais yn y cartref yn dderbyniol.

Nid oes unrhyw esgus dros ymddwyn yn dreisgar, a dim ond y sawl sy’n gwneud hyn sydd ar fai. Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, rhoddodd Fforwm Trais yn y Cartref Powys 15,000 o fatiau cwrw i dafarnau led led Powys. Cafodd hyn ei ariannu trwy Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, i ledaenu’r neges nad yw trais yn y cartref yn ymddygiad derbyniol, os ydych yn feddw neu’n sobr.

aelod Trefniadaeth …
Berson Trefniadaeth
   
  PAVO
Mick Collins  Powys County Council – Adult Protection
Steve Connolly   Army Welfare Service
Insp. Robert Bates Dyfed Powys Police
Dominique Jones   PCC – Children & Young People’s Partnership
Lynette Evans  CAFCASS Cymru
Mandy Borton  Powys LHB
Pauline Galluccio  Powys LHB
Lisa Hubbard Hafan Cymru
Fay Lantos  DAO Dyfed Powys Police
Sara Humphreys Hafan Cymru
Ruth Parry Wright  Radnor Women’s Aid
Cathi Jones    Hafan Cymru
    DAO Dyfed Powys Police
Louisa Kerr   Community Safety Group
Amanda Lewis    PCC CFLL
Susan Newport   Powys LHB
Shirley Powell  Montgomeryshire Family Crisis Centre
Lesley Spencer National Probation Service
Andy Kaye Powys County Council Adult Protection
Raquel Bennett  Powys LHB
Steve Davies    PDAC
Angela Wragg     Powys LHB
Jacqueline Richardson   Montgomeryshire Family Crisis Centre
Julie Sayce   Victim Support Powys
Margaret Roberts   Crown Prosecution Service
Melanie Sharman  Brecknock Women’s Aid
Bethan Williams Victim Support Powys
Ch. Insp.Martin Tavener Dyfed-Powys Police
Christine Jones Relate Cymru
  Disability Powys
Yan James Powys CC
Philippa Frost Powys Mediation
   Powys LHB
Rob Powell Homelessness Officer
David Roffey PCC Housing
Adrian Jones Supporting People
Muriel Ryan CAB
Pat Craven Freedom Programme

Sorry, the comment form is closed at this time.