Helpwch Rywun

Helpu rhywun i adael …
Os bydd rhywun yn dod atoch am help, gwrandewch a cheisiwch beidio â chymryd rheolaeth. Gall y pwyntiau canlynol eich helpu:
 
 
  • Ceisiwch gymryd yr unigolyn o ddifrif a chredu’r hyn y maent yn ei ddweud
 
  •   Peidiwch â chynhyrfu a byddwch yn bositif.
 
  •   Parchwch eu dymuniadau bob amser. Gofynnwch iddynt beth y maent ei eisiau
 
  •   Rhowch amser iddynt drafod eu teimladau a’u hanghenion heb roi pwysau arnynt i frysio
 
  •   Pwysleisiwch nad ydynt yn gyfrifol am y trais ac nad ydynt ar ben eu hunain
 
  •   Ceisiwch weld a ydynt angen help meddygol
  • Defnyddiwch y wefan hon i ddod o hyd i fudiad a all helpu
  • Peidiwch â’u gwthio i wneud unrhyw beth nad ydynt yn barod i’w wneud. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i farnu’r ffordd orau ymlaen a pha ffordd o weithredu sy’n ddiogel.
  • Helpwch hwy wrth gysylltu ag asiantaethau a all eu helpu, e.e. yr Heddlu, Next Link, cyngor cyfreithiol
  • Helpwch hwy i gadw’n ddiogel trwy wneud cynllun diogelwch
Rhowch sicrwydd iddynt na fyddwch yn datgelu unrhyw wybodaeth. Sicrhewch ei bod yn ddiogel i gysylltu â hwy a beth yw’r ffordd fwyaf diogel o gadw mewn cysylltiad.
Mae rhai pobl yn gadael perthynas dreisgar wedi dim ond un digwyddiad. Gall gymryd amser hir i eraill wneud y newid hwn i’w bywydau. Nid yw hyn yn golygu fod y trais yn llai difrifol. Mae’n bwysig bod rhywun yn parhau i dderbyn help a chymorth ac yn derbyn cydymdeimlad os ydynt yn teimlo na allant adael. Mae mudiadau a all helpu merched a dynion nad ydynt yn barod i adael.

Sorry, the comment form is closed at this time.