Gwybodaeth i Ddynion
Nid dim ond merched sy’n dioddef Trais yn y Cartref. Gall ac mae dynion yn dioddef trais yn y cartref yn aml hefyd. Gall y sawl sy’n cam-drin fod yn bartner benywaidd; yn gariad neu’n wraig; neu fe all y camdriniwr fod yn ddyn hefyd mewn achos o berthynas un rhyw.
Nid yw’r dudalen hon yn cwestiynu ystadegau nac yn gofyn a yw mwy o ddynion yn cael eu cam-drin gan ferched neu fel arall. Ar ddiwedd y dydd, mae’r cwestiwn bron yn ddibwys. Rydym yn gwybod FOD llawer o ddynion YN profi trais yn y cartref ar ryw adeg yn eu bywydau. Os mai 1000 neu 100,000 y flwyddyn o ddynion sy’n dioddef ym Mhrydain, nid yw hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ddioddefaint yr unigolyn a’r ofn a brofir gan unrhyw ddyn mewn perthynas dreisgar. Yr hyn sy’n bwysig yw bod eu dioddefaint yn cael ei gymryd o ddifrif a bod help a chefnogaeth yn cael ei gynnig iddynt.
Mae nifer o effeithiau trais yr un fath i ddynion ag y maent i ferched. Maent yn debygol o deimlo
cywilydd llwyr, ofn, eu bod wedi colli hunanwerth a hyder, eu bod yn ynysig ac yn euog ac yn ddryslyd am y sefyllfa. Fodd bynnag, bydd llawer o ddynion sydd wedi dioddef trais yn cael anhawster mawr yn ei ddisgrifio fel camdriniaeth. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i’r ddelwedd sydd gennym ni yng nghymdeithas y gorllewin o’r Dyn. Yn aml, bydd dynion yn cael eu hystyried yn gryf, dominyddol a ‘macho’. Bydd bechgyn, hyd yn oed, yn cael eu dysgu nad yw crio yn rhywbeth gwrol i’w wneud (“dydy bechgyn mawr ddim yn crio”). I lawer, mae’r syniad o ddyn yn ofnus neu’n ddiamddiffyn yn dabw, mae’r syniad o ddyn – sydd fel arfer yn gryfach yn gorfforol – yn cael ei guro yn chwerthinllyd. Dyna pam fod llawer o ddynion sy’n dioddef camdriniaeth yn teimlo’n “llai o ddyn”, yn teimlo fel nad ydynt yn ddigon gwrywaidd mewn rhyw ffordd ac y dylent allu atal y gamdriniaeth.
“”… roedd hi’n arfer sgrechian a’m taro’n rheolaidd, ond pan oeddwn angen pwythau yn fy mhen wedi iddi ymosod arnaf gyda chyllell ar ôl iddi hi feddwi, roedd rhaid i mi adael.” (Anhysbys)
Hyd yn oed os yw gwraig neu bartner yn ymosod yn gorfforol ar ddyn, y realiti yw y bydd nifer o ddynion yn gadael iddynt eu curo yn hytrach na tharo nôl i amddiffyn eu hunain a bod mewn perygl o frifo eu hymosodwr. Hyd yn oed os byddant yn taro’n ôl, maent yn ymwybodol bod perygl iddynt gael eu cyhuddo o fod yn gamdriniwr eu hunain. Nid yw camdriniaeth fodd bynnag yn gorfforol bob tro. Mae llawer o ddynion, yn yr un modd â nifer o ferched, yn wynebu camdriniaeth emosiynol, llafar a seicolegol yn ddistaw bob dydd am flynyddoedd gan arwain at erydu eu hunanhyder yn raddol a gwneud iddynt deimlo’n fwy ynysig oddi wrth bawb o’u hamgylch.
“Dim ond ar ei thelerau hi y byddem yn cael rhyw. A byddai bob tro yn rhoi paid arno cyn i mi ddod. Byddwn yn teimlo mor rhwystredig, byddai’n rhaid codi a gwneud te a thost i’m hunan er mwyn tawelu, ond doedd hi ddim yn hoffi i mi godi chwaith. Rhaid oedd i mi aros yno a’i dal ond gwneud dim! Dwn i ddim ….. roedd hynny wir yn fy ngyrru’n ddwl.” (Anhysbys – wyth mlynedd wedi diwedd y briodas)
Gall dynion ddioddef trais rhywiol hefyd. Gall dioddefwr hoyw gael ei dreisio gan ei bartner, gan ddioddef yr holl erchyllterau y byddai rhywun arall yn ei brofi sydd wedi dioddef trais. Nid oes nifer o ddynion mewn perthnasoedd treisgar yn teimlo eu bod yn rheoli eu bywyd rhywiol eu hunain. Gall eu partneriaid fynnu cael rhyw neu ei orfodi. Gallant wneud sylwadau sarhaus am eu dyndod neu eu cywilyddio’n gyhoeddus. Mae nifer o ddynion hefyd yn profi “rhyw fel gwobr am ymddygiad da” ac i’r gwrthwyneb, bydd unrhyw agosatrwydd yn cael ei wrthod os ydynt wedi gwneud rhywbeth nad yw’n plesio eu partneriaid (yn fwriadol neu beidio) – dyma gamddefnyddio eu rhywioldeb. Mewn perthynas dreisgar, defnyddir rhyw yn aml fel ffordd o gam-drafod a rheoli’r unigolyn arall, boed os yn wrywaidd neu’n fenywaidd. Camdriniaeth yw hyn.
Heblaw am unrhyw fyrdd o resymau dros beidio gadael (gweler Pam Rydym yn Aros), mae nifer o ddynion gyda phlant yn teimlo fel eu bod yn cael eu caethiwo mewn perthynas dreisgar oherwydd eu bod yn ofni y byddant yn colli cysylltiad â’u plant os byddant yn gadael. Efallai eu bod hefyd yn ofni y bydd eu partner treisgar yn parhau i gam-drin y plant os byddant yn gadael (yn enwedig os mai dyma’r achos eisoes). Maent yn gwybod y bydd barnwr yn dyfarnu y bydd plant yn aros gyda’r fam yn y rhan fwyaf o achosion. Maent yn ofni na fydd neb yn eu credu hyd oed os byddant yn datgelu’r trais y byddant wedi’i ddioddef mewn Llys, neu’n waeth byth y bydd eu partner treisgar yn troi’r fantol yn eu herbyn rhywsut ac y byddant yn cael eu condemnio fel yr un treisgar gan ei gwneud hi’n anoddach fyth i gael digon o gyswllt â’r plant, heb sôn am gael y plant yn byw gyda hwy.
Os ydych yn cael eich cam-drin
Os ydych yn ddyn a’ch bod yn cael eich cam-drin neu eich bod wedi dianc o berthynas dreisgar, cofiwch nad ydych ar eich pen eich hunan. Mae llawer o bobl yn yr un sefyllfa â chi, a llawer, fel chi, yn teimlo fel mai dim ond y chi sy’n dioddef y math yma o gamdriniaeth. Mae’n iawn i fod yn ofnus, yn ddryslyd a’ch teimladau wedi’u brifo. Mae rhywun yr ydych yn ei garu, yn gofalu amdano ac yn ymddiried ynddo wedi torri’r ymddiriedaeth honno, wedi troi yn eich erbyn a’ch brifo.
Does dim rhaid i chi ddioddef yn dawel, mae asiantaethau a phobl sydd yn gofalu a gallant gynnig help a chyngor i chi. Edrychwch ar y llinellau cymorth a dolenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar eich cyfer chi ar waelod y dudalen hon. Maent yno i’ch helpu. Dydy’r ffaith eich bod yn ddyn ddim yn golygu eich bod yn gallu dioddef poen!
Os nad ydych bellach mewn perthynas dreisgar, dylech wybod y gallwch ‘oresgyn hyn’, ond efallai y bydd y profiad dal yn rhoi hunllefau i chi ac yn ei gwneud hi’n anodd sefydlu perthynas newydd ac i ddysgu bod yn agored ac ymddiried yn rhywun eto. Gall siarad â chynghorydd am yr hyn sydd wedi digwydd a sut yr ydych yn teimlo fod yn help.
Peidiwch â phoeni os bydd rhai pobl y byddwch yn dod ar eu traws ddim yn eich credu neu’n gwneud hwyl ar eich pen. Yn anffodus, ni all neu nid yw nifer o bobl eisiau credu bod dynion yn gallu ac yn dioddef trais (oherwydd eu hansicrwydd eu hunain). Cofiwch mai eu problem nhw yw hyn os nad ydynt yn eich credu – nid eich problem chi. Nid yw’n gwneud eich profiad yn llai poenus na dilys. Ceisiwch anwybyddu eu hagweddau a rhoi tro ar siarad â rhywun arall. Fe fyddwch yn gweld fod pobl YN eich cymryd o ddifrif ac yn gallu deall yr hyn yr ydych wedi’i ddioddef.
Os ydych yn ofni y bydd eich partner yn eich brifo ymhellach, bydd gennych yr un hawliau i gael eich diogelu dan y gyfraith ag unrhyw un arall, boed yn ddyn neu’n ddynes. Mae’r un gorchmynion i atal dynion rhag ymosod ar ferched ar gael i’ch diogelu chi. Mynnwch eich hawliau i fod yn rhydd o ofn ac i fyw’n ddiogel. Yn yr un ffordd, mae gan y Llysoedd Teulu gyfrifoldeb i ystyried POB honiad a wneir am Drais yn y Cartref wrth bwyso a mesur gorchmynion preswylio a chyswllt, boed os ydynt yn erbyn y dad neu’r fam.
Ac yn olaf, cofiwch nad eich bai chi oedd y cyfan. Nid oeddech yn haeddu cael eich taro, eich sarhau na’ch cywilyddio. Nid oeddech yn haeddu cael rhywun yn eich cyffwrdd mewn ffordd amhriodol os oeddech wedi gofyn iddynt beidio. Nid oeddech yn haeddu cael eich sathru dan draed nac yn haeddu cael eich bygwth. Nid oeddech yn haeddu cael ymosodiad gydag arf, eich cywilyddio o flaen eich ffrindiau na chael rhywun yn dweud wrthych beth i’w wneud. Nid oeddech yn haeddu cael eich cam-drin mewn unrhyw ffordd.


Sorry, the comment form is closed at this time.