Cwmraig

Diffiniad o drais yn y cartref:

“ Unigolyn sy’n cael ei gam-drin (neu dan fygythiad o gael ei gam-drin) yn emosiynol, yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu’n ariannol gan eu partner, aelod o’r teulu neu rywun lle mae neu lle bu perthynas â hwy”
(Fforwm Trais yn y Cartref Powys – 2000)

Pwy ydym ni?

Partneriaeth amlasiantaethol o fudiadau statudol a gwirfoddol yw Fforwm Trais yn y Cartref  Powys  sy’n ymroddedig tuag at leihau’r achosion o drais yn y cartref. Mae’r Fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys, Bwrdd

Iechyd Lleol Powys, Yr Heddlu, Y Gwasanaeth Prawf, Cymorth i Fenywod, Cyngor Alcohol a Chyffuriau Powys a Chymorth i Ddioddefwyr Powys.

Mae 2 ddarn o ddeddfwriaeth bwysig yn tanategu gwaith y Fforwm ym Mhowys: Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 a Deddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 (The Domestic Violence Crime and Victims Act 2004). Mae’r ddeddf olaf hon yn cynyddu’r diogelwch cyfreithiol i ferched a phlant/pobl ifanc – a fydd yn galluogi mwy o ddioddefwyr i aros yn eu cartrefi eu hunain a theimlo’n ddiogel.

Y ffordd o’n blaen …

Mae’r Fforwm wedi llunio cynllun gweithredu am y 3 blynedd nesaf a’i nod yw Hyrwyddo’r neges nad yw trais yn y cartref yn dderbyniol

* Annog adrodd am drais yn y cartref a lleihau’r achosion o ymosod ar rywun dro ar ôl tro.
* Cynyddu hyder y sawl sy’n dioddef a sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i’r gwasanaethau a chymorth sydd ar gael iddynt
* Sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn derbyn trais yn y cartref
* Mesur beth yw gwir gost trais yn y cartref – yn ariannol ac i bobl
* Sicrhau bod troseddwyr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu hymddygiad

Mewn ymateb i Strategaeth Genedlaethol Cymru Gyfan: Mynd i’r Afael â Thrais yn y Cartref, mae Fforwm Trais yn y Cartref Powys wedi llunio amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth am yr help sydd ar gael i’r sawl sy’n dioddef trais yn y cartref. Mae’r rhain yn cynnwys cardiau gwybodaeth, cylch allweddi, nodau llyfr a nodiadau ‘post-it’ gyda manylion  Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cymru a mudiadau sy’n cynnig help a chyngor. Mae gan y

Fforwm wefan hefyd sy’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sef  – ‘Not Your Fault’ ac mae wedi dosbarthu matiau llygoden a bandiau garddwn i ysgolion ym Mhowys. Mae Fforwm Trais yn y Cartref Powys yn ymroddedig o ran herio’r syniad fod trais yn y cartref yn dderbyniol.

Nid oes unrhyw esgus dros ymddwyn yn dreisgar, a dim ond y sawl sy’n gwneud hyn sydd ar fai. Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, rhoddodd Fforwm Trais yn y Cartref Powys 15,000 o fatiau cwrw i dafarnau led led Powys. Cafodd hyn ei ariannu trwy Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, i ledaenu’r neges nad yw trais yn y cartref yn ymddygiad
derbyniol, os ydych yn feddw neu’n sobr.

aelod Trefniadaeth …

Berson     Trefniadaeth

Michele Muireasgha     PAVO
Mick Collins      Powys County Council – Adult Protection
Steve Connolly       Army Welfare Service
Insp. Robert Bates     Dyfed Powys Police
Dominique Jones       PCC – Children & Young People’s Partnership
Lynette Evans      CAFCASS Cymru
Mandy Borton      Powys LHB
Pauline Galluccio      Powys LHB
Lisa Hubbard     Tai Hafan
Onw Hughes      DAO Dyfed Powys Police
Sara Humphreys     Tai-Hafan
Ruth Parry Wright      Radnor Women’s Aid
Cathi Jones        Tai Hafan
Michelle Beeson         DAO Dyfed Powys Police
Louisa Kerr       Community Safety Group
Amanda Lewis        PCC CFLL
Susan Newport       Powys LHB
Shirley Powell      Montgomeryshire Family Crisis Centre
National Probation Service
Andy Kaye     Powys County Council Adult Protection
Raquel Bennett      Powys LHB
Steve Davies        PDAC
Julie Richards         Powys LHB
Jacqueline Richardson       Montgomeryshire Family Crisis Centre
Mike Ritchie        Victim Support Powys
Margaret Roberts       Crown Prosecution Service
Melanie Sharman      Brecknock Women’s Aid
Bethan Williams     Victim Support Powys
Ch. Insp.Chris Curtis       Dyfed-Powys Police
Christine Jones     Relate Cymru
Disability Powys
Yan James     Powys CC
Philippa Frost     Powys Mediation
Angela Wragg       Powys LHB
Rob Powell     Homelessness Officer
David Roffey     PCC Housing
Adrian Jones     Supporting People
Muriel Ryan     CAB
Pat Craven     Freedom Programme

Sorry, the comment form is closed at this time.